| Cafodd y Tîm Cyntaf fuddugoliaeth o 24 pwynt i 18 i
ffwrdd yn Llangefni dydd Sadwrn. Sgoriwyd 3 chais, 3 throsiad a gôl gosb
ond ildiwyd 6 gôl gosb mewn safleoedd hawdd i'r tîm cartref. Bu bron i'r
diffyg disgyblaeth gostio'r gêm i ni gan bod Bethesda ar y blaen o 17
pwynt i 6 ar hanner amser. Dim ond cais hwyr achubodd y dydd. Sgorwyr Bethesda oedd Mathew Parry (cais, 3 throsiad a gôl gosb), Noam Davey a Steven Ellis (cais yr un). Cafwyd perfformiad grymus gan y blaenwyr yn enwedig yn y sgrymiau gosod. Bydd Bethesda ar Dôl Ddafydd y Sadwrn nesaf yn erbyn Yr Wyddgrug. Bydd y gic gyntaf am 2.30p.m. Derbyniodd y clwb rodd o set o grysau newydd ar gyfer y tymor gan Mr Richard Douglas Pennant o Stad y Penrhyn. Daeth Mr Douglas Pennant draw i gyflwyno'r crysau i'r capten, Paul Thomas a rhai o garfan y Tîm Cyntaf yn dilyn sesiwn ymarfer. |

| 04/09/10 | Llangefni 18 | Bethesda 24 |
| 11/09/10 | Bethesda | Yr Wyddgrug |
| 118/09/10 | Nant Conwy | Bethesda |
| 25/09/10 | Bethesda | Llandudno |
| 02/10/10 | Bro Ffestiniog | Bethesda |
| 16/10/10 | Bethesda | Bae Colwyn |
| 23/10/10 | Caernarfon | Llandudno |
| 04/12/10 | Bethesda | Pwllheli |
| 18/12/10 | Bethesda | Rhuthun |
| 08/01/11 | Bethesda | Llangefni |
| 15/01/11 | Yr Wyddgrug | Bethesda |
| 22/01/11 | Bethesda | Nant Conwy |
| 05/02/11 | Llandudno | Bethesda |
| 19/02/11 | Bethesda | Bro Ffestiniog |
| 05/03/11 | Bae Colwyn | Bethesda |
| 26/03/11 | Bethesda | Caernarfon |
| 02/04/11 | Pwllheli | Bethesda |
| 09/04/11 | Rhuthun | Bethesda |
| Chwaraewr | Cais | Trosiad | G Gosb | G Adlam | Pwyntiau |
| Mathew Parry | 1 | 3 | 1 | 0 | 14 |
| Noam Davey | 1 | 0 | 0 | 0 | 5 |
| Steven Ellis | 1 | 0 | 0 | 0 | 5 |
| Tîm | Gemau | Ennill | Colli | Cyfartal | Bonws | Pwyntiau |
| Yr Wyddgrug | 1 | 1 | 0 | 0 | 1 | 5 |
| Bethesda | 1 | 1 | 0 | 0 | 0 | 4 |
| Caernarfon | 1 | 1 | 0 | 0 | 0 | 4 |
| Rhuthun | 1 | 1 | 0 | 0 | 0 | 4 |
| Llandudno | 1 | 1 | 0 | 0 | 0 | 4 |
| Llangefni | 1 | 0 | 1 | 0 | 1 | 1 |
| Nant Conwy | 1 | 0 | 1 | 0 | 1 | 1 |
| Bro Ffestiniog | 1 | 0 | 1 | 0 | 1 | 1 |
| Bae Colwyn | 1 | 0 | 1 | 0 | 0 | 0 |
| Pwllheli | 1 | 0 | 1 | 0 | 0 | 0 |