HafanChwaraeCymdeithasolCysylltuHomePlayingSocialContact us

Cymdeithasol

ystafell fawr   ystafell snooker
Mae gan y clwb ystafell ar gyfer partïon ac achlysuron o bob math. Gellir llogi'r ystafell am bris rhesymol drwy drafodaeth efo'r pwllgor. Weithiau bydd disgwyl tâl am swyddogion diogelwch ar y drysau a weithiau gofynnir am flaendal rhag difrod.
Mae gan y clwb drwydded tân sy'n caniatau i 240 o bobl fod yn yr ystafell yma.
Am fwy o fanylion cysylltwch â'r clwb ar 01248 601884.
  Mae gan y clwb ystafell sy'n cynnwys 2 fwrdd snwcer maint llawn. Dim ond aelodau llawn o'r clwb ac Is-lywyddion sy'n gallu defnyddio'r byrddau snwcer. Cost aelodaeth llawn yw £15 y flwyddyn.
Mae'r clwb yn rhedeg 2 dîm yng Nghynghrair Snwcer Bangor a'r Cylch.
Am fwy o fanylion aelodaeth y clwb cysylltwch â
R M Owen ar 01248 600918 neu holwch dros y bar.
Mae bwrdd pwl ar gael ger y bar.